Ynghylch Mageia 5

Dosbarthiad GNU/Linux i'ch cyfrifiadur a ryddhawyd gan gymuned Mageia yw Mageia 5. Mae sawl ffordd i'w osod, ond defnyddio ISO byw neu glasurol yw'r dull mwyaf poblogaidd.

Cliciwch yma i'w lawrlwytho!

Mae ISOs byw yn eich galluogi i ddefnyddio Mageia heb osod dim byd i'ch disg caled. Defnyddiwch y cyfarwyddiadau hyn i roi ISO byw ar ddyfais CD, DVD neu USB. Yna gallwch redeg Mageia 5 yn uniongyrchol o'r ddyfais honno, a rhoi cynnig ar Mageia drwy ddefnyddio rhyngwyneb graffigol megis GNOME neu KDE.

Os yw Mageia yn eich plesio, yna gallwch ei osod i'ch disg caled o'r cyfrwng byw.

Yr ISO clasurol yw'r ffordd fwyaf traddodiadol i osod Mageia'n uniongyrchol. Tarwch olwg ar y ddogfennaeth lawn ar gyfer y gosodwr hwn.

Mae Mageia 5 yn cynnwys sawl rheolydd bwrdd gwaith, er enghraifft KDE, Gnome, XFCE, Mate, a Cinnamon.

Mae yna lwyth o raglenni yn y storfeydd swyddogol. Mae croeso i chi bori yng nghronfa ddata rhaglenni Mageia i weld rhestr gyflawn o'r pecynnau y tu mewn i Mageia.

Beth sy'n newydd?

Mae digonedd o ddaioni ym Mageia 5, gormod i'w gynnwys yma - gweler nodiadau'r fersiwn am gyflwyniad manwl.

Ond mae yna un nodwedd werth sôn amdani yma. Cymerodd gryn ymdrech ac amser hir, ond roedd werth y drafferth. Mae Mageia 5 yn cefnogi UEFI, sy'n golygu ei bod hi hyd yn oed yn haws bellach i'w osod ar galedwedd ddiweddar.

I helpu defnyddwyr i ffurfweddu a defnyddio Mageia, ac i rannu gwybodaeth am y gymuned a'r prosiect, mae yna raglen o'r enw MageiaWelcome. Mae'n llwytho'n awtomatig y tro cyntaf i chi agor sesiwn mewn unrhyw un o'r amgylcheddau bwrdd gwaith.

Mageia mewn cyd-destun

Cymuned a dosbarthiad Linux yw Mageia, a Mageia 5 yw'n fersiwn diweddaraf.

Cefnogir Mageia 5 gan sefydliad nid er elw Mageia.org, a reolir gan gorff o gyfranwyr cydnabyddedig ac etholedig.

Crëwyd Mageia 5 gan fwy na chant o bobl o bedwar ban y byd.

Mae ein gwaith yn rhan o'r gwaith gwych a wneir gan y gymuned Linux a Meddalwedd Rydd ehangach. Rydym ni'n ceisio cyfuno holl waith ardderchog y gymuned ac ychwanegu cynhwysion arbennig Mageia i gynnig y profiad mwyaf sefydlog, dibynadwy a phleserus i ddefnyddwyr arferol, datblygwyr a busnesau.

Rydym yn croesawi cyfranwyr newydd i bob un o'n timau gwahanol sy'n ffurfio cymuned Mageia, ac rydym yn eich annog i ymuno â ni.