Cewch fwy o wybodaeth ynghylch ein polisi trwyddedu yma.

_: You can warn about unofficial translation here


Cyflwyniad

Bydd y system weithredu a'r cydrannau gwahanol sydd o fewn dosbarthiad Mageia yn
cael eu galw yn "Gynnyrch Meddalwedd" o hyn ymlaen. Mae'r Cynnyrch Meddalwedd yn
cynnwys, ond heb eu cyfyngu, i'r casgliad o raglenni , dulliau, rheolau a dogfennau mewn
perthynas â'r system weithredu a chydrannau gwahanol ddosbarthiad Mageia Linux,
ac unrhyw rhaglenni wedi eu dosbarthu gyda'r cynnyrch hwn darperir gan drwyddedwyr Mageia .

1. Cytundeb Trwyddedu

Darllenwch y ddogfen hon yn ofalus. Mae'r ddogfen hon yn gytundeb trwyddedu rhyngoch
chi â Mageia sy'n berthnasol i'r Cynnyrch Meddalwedd.
Wrth osod, dyblygu neu ddefnyddio'r Cynnyrch Meddalwedd mewn unrhyw fodd, rydych yn
amlwg yn derbyn ac yn llawn cytuno i gadw at delerau ac amodau'r Drwydded hon.
Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o'r cytundeb, ni chewch ganiatâd i osod, dyblygu
neu ddefnyddio'r Cynnyrch Meddalwedd.
Bydd unrhyw ymgais i osod, dyblygu neu ddefnyddio'r Cynnyrch Meddalwedd mewn modd
nad yw'n cyd-fynd â thelerau ac amodau'r Drwydded yn ddi-rym a bydd yn terfynu eich
hawliau o dan y Drwydded hon. Ar ddiwedd y Drwydded, rhaid i chi ddinistrio'n syth pob
copi o'r Cynnyrch Meddalwedd.

2. Gwarant Gyfyngedig

Mae'r Cynnyrch Meddalwedd a'r ddogfennaeth gysylltiedig yn cael eu darparu "fel ag y maent",
heb ddim gwarant, hyd y mae'r gyfraith yn caniatáu.
Ni fydd Mageia , na ei drwyddedwyr a'r darparwyr yn gyfrifol, o dan unrhyw amgylchiad,
a chyhyd ag y bydd y gyfraith yn caniatáu, am unrhyw iawn o gwbl,
arbennig, damweiniol, uniongyrchol neu anuniongyrchol (gan gynnwys heb gyfyngu ar iawndal
am golli busnes, tarfu ar fusnes, colled ariannol, costau cyfreithiol, a chosb o ganlyniad i achos llys,
neu unrhyw golled o ganlyniad) yn codi o'r defnydd neu'r anallu i ddefnyddio'r Cynnyrch Meddalwedd,
hyd yn oed os yw Mageia wedi eu cynghori o'r posibilrwydd o'r fath iawn.

CYFRIFOLDEB CYFYNGEDIG YN GYSYLLTIEDIG GYDA'R MEDDIANT NEU'R DEFNYDD O FEDDALWEDD
GWAHARDDEDIG MEWN RHAI GWLEDYDD

Ni fydd Mageia, eu trwyddedwyr na'i ddosbarthwyr yn gyfrifol, o dan unrhyw amgylchiad,
a chyhyd y bydd y gyfraith yn caniatáu, i fod yn atebol am unrhyw iawn o gwbl, arbennig, damweiniol,
uniongyrchol neu anuniongyrchol (gan gynnwys heb gyfyngu ar iawndal am golli busnes, tarfu ar fusnes,
colled ariannol, costau cyfreithiol, a chosb o ganlyniad i achos llys, neu unrhyw golled o ganlyniad) yn
codi o lwytho i lawr cydrannau meddalwedd o un o safleoedd Mageia, sydd wedi eu gwahardd neu eu
hatal mewn rhai gwledydd gan gyfreithiau lleol.
Mae'r cyfrifoldeb cyfyngedig hwn yn perthyn i, ond heb ei gyfyngu i'r, cydrannau cryptograffiaeth cryf
sy'n cael eu cynnwys o fewn y Cynnyrch Meddalwedd.
Er hynny gan nad yw rhai awdurdodaethau'n caniatáu eithrio neu gyfyngu na chyfrifoldeb am
ddifrod o ganlyniad neu yn ei sgil, nid yw'r cyfyngiadau uchod yn berthnasol i chi.

3. Trwydded GPL a Thrwyddedau Cysylltiedig

The Software Products consist of components created by different persons or entities.
Most of these licenses allow you to use, duplicate, adapt or redistribute the components which
they cover. Please read carefully the terms and conditions of the license agreement for each component
before using any component. Any question on a component license should be addressed to the component
licensor or supplier and not to Mageia.
The programs developed by Mageia are governed by the GPL License. Documentation written
by Mageia is governed by "CC-By-SA" License.

4. Hawliau Eiddo Deallusol

Mae pob hawl cydrannau'r Cynnyrch Meddalwedd yn perthyn i'w hawduron perthnasol ac wedi eu hamddiffyn
gan gyfreithiau eiddo deallusol a hawlfraint sy'n berthnasol i raglenni meddalwedd.
Mae Mageia, ei gyflenwyr a'i drwyddedwyr yn cadw eu hawl i newid neu addasu'r Cynnyrch Meddalwedd,
yn rhannol neu yn gyfan, drwy unrhyw ddull ac ar gyfer unrhyw bwrpas.
Mae "Mageia" a'r logos cysylltiedig yn nodau masnachol sy'n perthyn i Mageia.Org

5. Cyfreithiau Llywodraethol

Os penderfynir gan benderfyniad llys bod unrhyw ran o’r cytundeb hwn yn ddi-rym, anghyfreithlon neu’n amherthnasol,
tynnir y rhan hwn o’r cytundeb. Byddwch yn dal i fod yn rhwymedig i adrannau perthnasol eraill y cytundeb.
Llywodraethir telerau ac amodau’r drwydded hon gan ddeddfau Ffrainc.
Dymunir i bob anghytundeb ar delerau’r drwydded hon gael eu datrys y tu allan i’r llys. Fel cam olaf,
trosglwyddir yr anghytundeb i’r llysoedd barn perthnasol ym Mharis - Ffrainc.
Am unrhyw gwestiwn ynghylch y ddogfen hon, cysylltwch â Mageia.

Rhybudd am batentau

Rhybudd: Mae'n bosibl nad yw meddalwedd rydd yn rhydd o batentau, a gall
peth meddalwedd rydd gael ei chyfyngu gan batent yn eich gwlad, e.e. gall
dadgodwyr MP3 fod angen trwydded ar gyfer defnydd pellach
(gw. www.mp3licensing.com am wybodaeth bellach). Os nad ydych yn
siŵr os yw'r patent yn berthnasol i chi, gwiriwch eich cyfreithiau lleol.