Darperir Mageia drwy ffeiliau ISO i'w hysgrifennu i ddisg CD neu DVD gwag.
Gellir lansio pob ISO o yrrwr USB.

I ddadlwytho ISO Mageia ar gofbin USB, gallwch ddefnyddio'r offer canlynol:

  • I linux, IsoDumper, ar gael o'r storfeydd. Neu unrhyw offer sy'n seiliedig ar dd. Ni chefnogir UNetbootin.
  • I Windows, tarwch olwg ar einwici i weld dewisiadau.

Mae "dadlwytho" i gofbin USB yn dileu unrhyw system ffeiliau sydd eisoes yn bodoli ar y rhaniad; collir unrhyw fynediad at ddata na chollir, a gostyngir cynhwysedd y rhaniad i faint y ddelwedd. Hynny yw, mae data blaenorol y ddyfais mewn perygl.

Mae dull gosod ar gyfer systemau UEFI ar gael yn y wici.

CD gosod drwy rwydwaith gwifrog

Lawrlwytho'n gyflym a chychwyn gosod ar unwaith drwy rwydwaith gwifrog neu ddisg lleol.

Tarwch olwg ar ein wici i weld rhestr o'r holl bosibiliadau.

Maint yr ISO yw tua 50MB.

Nid yw DVDs byw ar gael ar hyn o bryd. Nid yw blasau clasurol gosod ar gael eto.

Gosodwr rhwydwaith

Gosodwr rhwydwaith, CD meddalwedd ryd

Yn cynnwys meddalwedd rydd yn unig

CD gosodwr rhwydwaith a chadarnwedd gyfyng

Yn cynnwys y gyrwyr cyfyng sydd eu hangen i rai rheolyddion disgiau, cardiau rhwydwaith, ac ati weithio'n gywir.

Saernïaeth a gefnogir

64 did

Mae'r rhan fwyaf o gyfrifiaduron newydd yn cefnogi x86-64 (a adwaenir hefyd fel AMD64 neu Intel64), ond nid yw proseswyr rhai gliniaduron yn ei gefnogi.

32 did

Mae'r fersiwn hwn yn rhedeg ar bob cyfrifiadur gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi 64did. Fodd bynnag, os oes gennych fwy na 3GB o RAM, dylech ddefnyddio'r fersiwn 64did.