Darperir Mageia drwy ffeiliau ISO i'w hysgrifennu i ddisg CD neu DVD gwag.
Gellir lansio pob ISO o yrrwr USB.

I ddadlwytho ISO Mageia ar gofbin USB, gallwch ddefnyddio'r offer canlynol:

  • I linux, IsoDumper, ar gael o'r storfeydd. Neu unrhyw offer sy'n seiliedig ar dd. Ni chefnogir UNetbootin.
  • I Windows, tarwch olwg ar einwici i weld dewisiadau.

Mae "dadlwytho" i gofbin USB yn dileu unrhyw system ffeiliau sydd eisoes yn bodoli ar y rhaniad; collir unrhyw fynediad at ddata na chollir, a gostyngir cynhwysedd y rhaniad i faint y ddelwedd. Hynny yw, mae data blaenorol y ddyfais mewn perygl.

Mae dull gosod ar gyfer systemau UEFI ar gael yn y wici.

Blasau gosod clasurol

Yr ISO clasurol yw'r ffordd draddodiadol o osod Mageia'n uniongyrchol. Tarwch olwg ar ddogfennaeth lawn y gosodwr hwn.

Cefnogir hyd at 167 o ieithoedd: Deutsch, English, Español, Français, Italiano, Português, Svenska, Nederlands, Polski, Dansk, Pусский a nifer fawr fwy! Cewch weld y rhestr lawn yma.

Mae'r ISOs yma'n cynnwys meddalwedd rydd a rhai gyrrwyr perchnogol.Cewch eich gofyn pa fath o feddalwedd yr hoffech chi ei gosod.Mae'r gosodwr yn cynnwys y dewis o ychwanegu storfeydd ar lein Mageia yn ystod y gosod, sy'n golygu y gallwch chi osod hyd yn oed mwy o becynnau na'r rhai sydd ar gael ar yr ISO.

For 32 and 64bit, size of the ISOs is about 4.1GB.

DVDs byw

Live ISO's let you try Mageia 9 without installation. You can run Mageia directly from a DVD or USB device, and try it using one of the graphical user interfaces such as GNOME, Plasma or Xfce.

Os yw Mageia yn eich plesio, yna gallwch ei osod i'ch disg caled o'r cyfrwng byw.

Defnyddiwch DVDs byw ar gyfer gosodiadau newydd YN UNIG. PEIDIWCH â defnyddio'r DVDs byw hyn i uwchraddio o fersiwn blaenorol Mageia! Defnyddiwch osodiad clasurol a tharwch olwg ar y canllaw uwchraddio.

Tua 2.9 - 3.8GB yw maint ISO DVD byw.

CD gosod drwy rwydwaith gwifrog

Lawrlwytho'n gyflym a chychwyn gosod ar unwaith drwy rwydwaith gwifrog neu ddisg lleol.

Tarwch olwg ar ein wici i weld rhestr o'r holl bosibiliadau.

Maint yr ISO yw tua 50MB.

Bwrdd gwaith

GNOME Desktop

Plasma Desktop

Xfce Desktop

Gosodwr rhwydwaith

Gosodwr rhwydwaith, CD meddalwedd ryd

Yn cynnwys meddalwedd rydd yn unig

CD gosodwr rhwydwaith a chadarnwedd gyfyng

Yn cynnwys y gyrwyr cyfyng sydd eu hangen i rai rheolyddion disgiau, cardiau rhwydwaith, ac ati weithio'n gywir.

Saernïaeth a gefnogir

64 did

Mae'r rhan fwyaf o gyfrifiaduron newydd yn cefnogi x86-64 (a adwaenir hefyd fel AMD64 neu Intel64), ond nid yw proseswyr rhai gliniaduron yn ei gefnogi.

32 did

Mae'r fersiwn hwn yn rhedeg ar bob cyfrifiadur gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi 64did. Fodd bynnag, os oes gennych fwy na 3GB o RAM, dylech ddefnyddio'r fersiwn 64did.